Lansio gwasanaeth Cliciwch a Chasglu yn Llys bwyd Stilts
Mae’r Gwasanaethau Arlwyo wedi lansio gwasanaeth Cliciwch a Chasglu ar gyfer Stilts, ar Gampws Trefforest.
Dydd Llun 24 Mai, gall cwsmeriaid archebu brecwast a chinio ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen hon: https://vinestudent.io/outlets/usw-stilts-foodcourt neu’r cod QR ar y poster isod, cyn casglu o Stilts.
Mae’r gwasanaeth ar gael rhwng 9am a 3pm. Os bydd y cyfnod prawf yn llwyddiannus, bydd Cliciwch a Chasglu ar gael mewn mannau arlwyo eraill ledled PDC yn y dyfodol.