GOBLYGIADAU DARPARU BWYD (I’W WERTHU NEU FEL ANRHEGION NEU FEL ARALL) AT DDIBENION


Cyflwyniad:


Yn dilyn cyflwyno deddfwriaeth newydd ym mis Rhagfyr 2014 yn ymdrin ag alergenau, mae’r Adran Arlwyo yn argymell bod adrannau, myfyrwyr a staff yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i ddewisiadau di-fwyd ar gyfer gweithgareddau codi arian ar safleoedd y Brifysgol.


Crynodeb:


Yn yr un modd ag iechyd a diogelwch ceir deddfwriaeth sy’n ymdrin â diogelwch bwyd a hylendid er mwyn sicrhau nad yw bwydydd yn peri risg i’r rhai sy'n eu bwyta.
Gall bwyd anniogel achosi salwch difrifol. Fodd bynnag, mae’r potensial i gael adwaith alergaidd (fel sioc anaffylactig) i fwyd heb ei reoli a gynigir am ddim neu a werthir ar gampws a allai arwain at farwolaeth yn llawer mwy difrifol.
Rhaid dangos bod yr holl fwyd a gynhyrchir ac a gynigir am ddim neu a werthir ar y campws yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ofynnol. Cyfrifoldeb darparwr y bwyd yw hyn ac er y gellir defnyddio templedi ar gyfer llunio dogfennau, mae angen gwybodaeth arbenigol i lenwi’r manylion diwydrwydd dyladwy angenrheidiol.
Mae’r Brifysgol yn gyfrifol, ac felly’n atebol o ran cyfraith droseddol a sifil, am sicrhau ei bod yn cydymffurfio â deddfwriaeth diogelwch bwyd pan fydd bwyd yn cael ei gynnig am ddim neu'n cael ei werthu ar Gampws Prifysgol. Gellir hefyd wneud cais am iawndal sifil yn erbyn unigolion sy’n gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o gynhyrchu a chynnig neu werthu unrhyw eitemau bwyd. Mae dirwyon y gellir eu gorfodi o dan y rheoliadau bwyd amrywiol yn gymharol fach o’u cymharu â’r iawndal y gellid ei roi petai hawliad sifil yn llwyddiannus.


Astudiaeth Achos:


Mae grŵp o 4 myfyriwr yn cymryd rhan mewn prosiect menter sy’n cychwyn gyda £10 i ddechrau busnes ac mae angen iddynt wneud a gwerthu cynnyrch, yn ogystal â dangos elw. Maent yn penderfynu cael stondin gacennau oherwydd bod gan un o’r merched rysáit ar gyfer tafell gwstard ei mam, sydd wedi ennill gwobrau. Mae’r stondin yn llwyddiant ysgubol ac mae’r myfyrwyr yn pasio’r dasg yn hawdd.
Mae nifer o fyfyrwyr yn absennol o’r dosbarth un diwrnod ac yn colli aseiniad ymarferol. Ar ôl dychwelyd maent yn rhoi gwybod am symptomau poen stumog, chwydu a dolur rhydd ac yn gwneud y cysylltiad eu bod i gyd wedi bwyta cacen o’r stondin gacennau. Maent yn rhoi gwybod i Adran Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod Lleol, sy’n dod i’r Brifysgol ac yn cynnal arolygiad dadansoddol manwl. Mae adran Iechyd yr Amgylchedd yn ystyried cyflwyno Hysbysiad Gwella i’r Brifysgol (byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Brifysgol gymryd camau adferol ar unwaith) neu Hysbysiad Gwahardd/Gorchymyn Gwahardd ar y Brifysgol (byddai hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Brifysgol atal yr hyn sy'n achosi’r gwenwyn bwyd ar unwaith, neu i gau’r Brifysgol nes bod yr achos wedi'i reoli). Mae’r myfyrwyr sydd wedi dioddef gwenwyn bwyd yn ystyried mynd at y papurau lleol a gwneud hawliad sifil yn erbyn y Brifysgol.
Yr achos oedd Staphylococcus Aureus, bacteria a drosglwyddwyd gan un o’r myfyrwyr a oedd yn gwneud y bwyd, gan nad oedd ganddo wybodaeth dda am hylendid bwyd a gwahanol fesurau rheoli a allai fod wedi atal halogi’r bwyd. O’r herwydd, roedd y bacteria’n ffynnu ar y tafelli cwstard heb eu hoeri a adawyd allan yn yr amodau amgylchynol am gyfnodau hir o amser. Gallai hawliad o ddegau o filoedd gael ei wneud gan unrhyw bartïon sydd wedi’u hanafu (sâl) os oeddent wedi colli terfynau amser academaidd allweddol, neu filiynau o bosibl (fel yr achos yn America ym mis Mehefin 2018).

Petai’r canlyniad wedi bod yn sioc anaffylactig o ganlyniad i fwyta rhywbeth yr oedd gan y defnyddiwr alergedd iddo, gallai’r parti a anafwyd fod wedi marw neu ddioddef anafiadau fyddai’n bygwth bywyd (newyn ocsigen, ac ati) yn hytrach na dioddef salwch. Petai hyn wedi digwydd, gallai’r hawliad ymgyfreitha sifil gyrraedd cannoedd o filoedd o bunnoedd, neu filiynau o bunnoedd o bosibl, ond hefyd gallai’r rhai fyddai wedi bod yn atebol gael dedfryd o garchar o hyd at chwe blynedd am ddynladdiad, fel sydd wedi digwydd yn achos llawer o ddedfrydau am farwolaethau yn ymwneud ag endid masnachol yn rhoi gwybodaeth alergen anghywir i ddefnyddiwr yn 2018.


Y dystiolaeth sydd ei hangen at y bobl sy'n crnhyrchu'r bwyd e.e:


1.   Cofnodi bob cam o’r broses gynhyrchu:- Prynu cynhwysion amrwd / Storio / Paratoi / Coginio / Oeri / Cludiant & Gwasanaeth.


2.  Adnabod a chofnodi peryglon - Nodi’r holl beryglon ar gyfer pob cam o’r prosesau sydd wedi’u rhifo uchod e.e. Yn nodweddiadol, gellir achosi halogiad ffisegol, cemegol a microbiolegol (math o facteria ac amodau ar gyfer tyfiant) ar bob cam o’r broses gynhyrchu felly mae angen ystyried a rheoli pob un o’r rhain i’r graddau mwyaf helaeth â phosibl. Lle na ellir eu rheoli, dylid sicrhau dulliau amgen.


3.    Sefydlu mesurau rheoli ar gyfer pob cam o’r prosesau sydd wedi’u rhifo uchod e.e. dim ond prynu cynhwysion amrwd o siopau sydd ag enw da, eu harchwilio ar gyfer ansawdd a sicrhau nad oes unrhyw halogiad i’w weld, coginio cynnyrch i’r tymheredd gofynnol sy’n cydymffurfio â gofynion y gyfraith, oeri cynnyrch yn unol â gweithdrefnau ac amserlenni sy’n cydymffurfio â’r gyfraith a’u cludo/storio a’u gweini mewn modd y gellir dangos ei fod yn cydymffurfio â’r gyfraith.


4.    Tystiolaeth bod y rheini sy'n ymdrin â’r bwyd wedi cael hyfforddiant:- dylai pawb sy'n trin bwyd, fod wedi cyflawni a phasio’r cymhwyster Lefel 1 mewn diogelwch a hylendid bwyd o leiaf (fel y cydnabyddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd).  Mae ymwybyddiaeth fanylach (Lefel 2) yn well gan fod y cwrs hwn yn rhoi trosolwg mwy cynhwysfawr o ddiogelwch bwyd, hylendid ac ymwybyddiaeth o alergenau ac y byddai’n helpu’r Brifysgol i lunio amddiffyniad diwydrwydd dyladwy petai angen.


5.   Tystiolaeth o gydnabod y Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd diweddar:-a gyflawnwyd naill ai drwy ddarparu gwybodaeth ar yr adeg gwerthu sy’n ymwneud â phresenoldeb rhai alergenau mewn cynhyrchion, neu drwy gynnig darparu gwybodaeth o’r fath.


6.  Tystiolaeth o reoli alergenau drwy gael rhestr lawn o gynhwysion yn cadarnhau bod eitemau wedi’u cynhyrchu mewn amgylchedd hylan a bod gwybodaeth am alergenau ar gael i ddefnyddwyr ar gais.


Y dystiolaeth sy'n ofynnol gan adrannau sy'n awdurdodi'r gweithgareddau:


1.   Y gallu i fonitro pob cam o’r broses a chymryd camau cywiro lle bo angen. Er mwyn gallu gwybod ble a phryd i gymryd camau cywiro, dylai fod gan oruchwyliwr ddealltwriaeth fanylach o ddiogelwch bwyd a hylendid (Lefel 2 o leiaf, ond Lefel 3 o ddewis) er mwyn deall y peryglon o fynd dros y terfynau cyfreithiol critigol a sut i ddatrys gormodiant yn effeithiol.


2.    Y gallu i ddeall ac asesu a oes gan rywun sy'n ymdrin â bwyd ddigon o wybodaeth am achosion gwenwyn bwyd a chlefydau a gludir gan fwyd o ran y bwyd y maent yn ei weini, a sut mae eu hatal?  Y gallu i asesu a oes gan y sawl sy’n monitro ddigon o wybodaeth i fonitro’r gweithgareddau hyn?


3.    Dealltwriaeth o egwyddorion arolygu a phwyntiau rheoli critigol yn y broses baratoi fel y gellir archwilio’r cynhwysion a’r mannau paratoi/coginio/storio/cludo a’r mannau gwasanaeth am lendid a p’un ai a ydynt yn addas i’r diben.


4.      Dealltwriaeth o derfynau tymheredd critigol, eu harwyddocâd o ran rheoli lledaeniad gwenwyn bwyd a chlefydau a gludir gan fwyd a phwysigrwydd cofnodi pob tymheredd.


5.    Gwybodaeth am bwy y dylid cysylltu â hwy (sef sawl adran ar yr un pryd) os bydd honiad o wenwyn bwyd neu ddigwyddiad yn ymwneud â’r partïon.


Gofynion deddfwriaethol presennol

Mae diogelwch a hylendid bwyd yn cael ei reoli’n bennaf gan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a Rheoliadau Hylendid Bwyd (Lloegr) 2006 a 2013. Mae Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn llywodraethu ansawdd y bwyd ei hun yn bennaf. Dylai bwyd fod o’r ‘natur, sylwedd ac ansawdd’ a ddisgwylir. Disgwylir i’r bwyd a gynigir i’w fwyta fod yn addas at y diben hwnnw ac felly nid yw’n niweidiol i iechyd mewn unrhyw ffordd (drwy halogiad corfforol, cemegol neu ficrobiolegol). Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd 2006 yn ymdrin yn bennaf â’r amgylchedd y cynhyrchir y bwyd ynddo. Mae’n drosedd o dan y rheoliadau i baratoi bwyd mewn amgylchedd nad yw’n addas i’r diben, lle mae cyflwr neu gyflwr y safle yn fygythiad i ddiogelwch y bwyd sy’n cael ei baratoi a’i gynhyrchu yno, neu lle y gallai unrhyw broses neu driniaeth achosi i’r cynnyrch bwyd beri risg i iechyd os caiff ei fwyta.
Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014 yn rhestru 14 o ‘alergenau mawr’ (fel y’u pennwyd gan yr Undeb Ewropeaidd) y dylid eu nodi, os ydynt yn bresennol mewn unrhyw fwyd a gynigir i’w fwyta, a rhoi gwybod i’r defnyddiwr amdanynt (neu gynnig rhoi gwybod amdanynt).

 

Canlyniadau torri'r gofynion deddfwriaethol:

O dan Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014, mae unigolyn sy’n euog o drosedd yn agored i ddirwy gymharol fach, heb fod yn fwy na £5,000. Mae hyn ychydig yn llai na’r dirwyon cymharol isel sy’n gallu cael eu pennu dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a Rheoliadau Hylendid Bwyd (Lloegr) 2006 a 2013 (hyd at £20,000), ond mae collfarnau troseddol o dan y Rheoliadau hyn hefyd yn gallu gorfodi 2 flynedd o garchar.
Fodd bynnag, mae hawliadau sifil llwyddiannus wedi dyfarnu symiau llawer mwy mewn iawndal. Yn 1990 cafodd cyn-filwr a oedd wedi ymddeol salmonela o bryd bwyd Nadolig mewn aduniad. Cafodd iawndal o £571,695. Yn gynharach eleni, cafodd menyw o Brydain wenwyn bwyd salmonela tra’r oedd ar ei gwyliau ac mae hi bellach yn y broses o siwio Virgin Holidays am hyd at £500,000.
Mae’n realistig credu y gallai unrhyw un sy’n cael adwaith alergaidd oherwydd alergen anhysbys mewn bwyd gael iawndal llawer mwy.  Byddai unrhyw faterion yn ymwneud â diogelwch bwyd yn cael effaith amlwg ar sgôr ‘sgoriau ar ddrysau’ Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yr Awdurdod Lleol a byddai hefyd yn cael effaith niweidiol ar enw da’r Brifysgol.


Ardymhellion:

1.     Peidiwch â gadael i fwyd gael ei weini ar y safle os nad yw’n dod o gyfleusterau arlwyo’r Brifysgol.