Teya

Gwobrau Teya

Beth yw Gwobrau Teya (Yoyo Wallet yn ffurfiol)?

Ap y gallwch ei ddefnyddio ar eich ffôn symudol i dalu am fwyd a diodydd mewn safleoedd arlwyo mewn Prifysgolion* yw  Gwobrau Teya. Gallwch ychwanegu at eich credydau ar-lein gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd neu gysylltu’r ap yn uniongyrchol â’ch cerdyn.

Mae’r Brifysgol a Gwobrau Teya wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu ap sy’n eich galluogi i dalu’n gyflym, yn ddiogel ac yn cynnig gwobrau i chi am eich teyrngarwch. Mae Gwobrau Teya yn golygu dim mwy o gardiau, dim mwy o arian parod a dim mwy o gardiau teyrngarwch.
*Nid yw’n cael ei dderbyn fel dull talu yn Undeb y Myfyrwyr.

Sut y gallaf gael gafael or  Gwobrau Teya?

Lawrlwythwch Gwobrau Teya yn eich siop app.

Nid oes modd i ddyfeisiau Windows neu Blackberry ddelio â Gwobrau Teya ar hyn o bryd.

Ble y gallaf ddefnyddio  Gwobrau Teya?

  • Caerdydd: Cafe @ Atrium
  • Glyn-taf:  Caffi Matrix, Neuadd Fwyd Zone
  • Dinas Casnewydd: Caffi
  • Trefforest: Stilts Neuadd Fwyd, Ciosg Coffi, Crawshays a  Ciosg y Llyfrgell, Parc Chwaraeon PDC

Sut ydw i'n talu gyda Gwobrau Teya?

Bydd yr ariannwr yn sganio'r cod QR a ddangosir at y sgrin ‘Pay Now’ pan fyddwch yn cyrraedd y til.  Os byddwch yn defnyddio gwasanaeth ychwanegu credydau (top-up), bydd angen i chi sicrhau bod gennych ddigon o gredydau yn eich cyfrif i wneud y taliad.
Os na fyddwch yn defnyddio gwasanaeth ychwanegu credydau , bydd eich trafodiad yn cael ei dynnu'n uniongyrchol o’r cerdyn rydych wedi’i gysylltu â’ch cyfrif .  


A oes unrhyw gostau cudd wrth dalu gyda Gwobrau Teya?

Mae Gwobrau Teya rhad ac am ddim i’w ddefnyddio (a bydd yn aros felly am byth). Yn wir, rydych chi’n arbed arian drwy gael cynnig y cynigion arlwyo diweddaraf drwy’r ap Gwobrau Teya. 

Sut mae casglu stampiau teyrngarwch?

Byddwch yn casglu stampiau teyrngarwch yn awtomatig ar eich cerdyn stamp rhithwir drwy’r ap, pan fyddwch yn prynu eitemau cymwys. Gallwch weld pa gardiau stamp sydd ar gael drwy glicio ar yr eicon ‘STAMP CARDS' yn yr ap.
 

Ble mae fy ngwobrwyon  a sut ydw i'n eu cyfnewid?
Pan fyddwch chi’n llenwi cerdyn stamp ar eich ap, byddwch chi’n cael taleb  Gwobrau Teya, y gallwch chi gael gafael arno drwy’r sgrin ‘Rewards’. Dewiswch y wobr yr hoffech chi ei chael a sganio’r cod QR wrth y til.

Pa fath o gardiau debyd/credyd y gallaf eu cysylltu â’m cyfrif Gwobrau Teya?
Gallwch gysylltu unrhyw gerdyn debyd neu gredyd (Visa, MasterCard neu American Express).

A oes modd cadw golwg ar faint rwy'n ei wario?
Oes. Unwaith y bydd y taliad wedi’i awdurdodi, byddwch yn cael derbynneb yn yr ap.

Sut y gallaf gysylltu â Gwobrau Teya?

Mae mwy o Gwestiynau Cyffredin ar wefan Gwobrau Teya .